
Cyn i'r cyngerdd ddechrau neithiwr fe wnes i dynnu'r llun hwn o ffenestr ddwyreiniol Eglwys S. Mair. Mae'r ffenestr yn hŷn nag adeilad yr eglwys ei hun gan ei bod wedi'i hetifeddu oddi wrth hen adeilad Eglwys S. Mihangel a godwyd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Jyst yn meddwl y buasai diddordeb gyda chi mewn gweld y ffenest. Y thema yw dioddefaint a buddugoliaeth Crist.