Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-10

Maer Aberystwyth

Mae'r etholiad cyffredinol yn dod yn nes a'r "brwdfrydedd" yn cynyddu. Wel, brwdfrydedd rhai. Ond dwi'n siwr y bydd yr etholiad ar gyfer swydd maer Aberystwyth yn profi'n fwy diddorol. Yn y Cambrian news heddiw roedd llythyr rhyfeddol gan wyres y Cyng. Mona Morris a gollodd ei swydd fel dirprwy faer mewn pleidlais yr wythnos flaenorol. Dyma'r llythyr:
Madam,
My name is Abbie, and I am eight years’ old and I think my grandma has been treated very badly. Don’t you think that when you are deputy Mayor and it is the end of the year, when the Mayor has to become another person, that it is meant to be the deputy mayor who takes over. But no, no, no, the council think that they should make a vote. Just listen, my grandma turns up to every coffee morning, sponsors every run we do, and always supports Aberystwyth town in every way she can. She even supports our town abroad in St Brieuc, Paphos, Kronburg. Excuse me for saying, but I think you have chosen the wrong person, don’t you?
Yours etc, Abie Morris, granddaughter of Cllr Mona Morris
Wrth gwrs yr hyn nad yw wyres y Cyng. Mona Morris yn ei gofio neu'n ei wybod yw bod ei mam-gu wedi gwneud yr un peth yn union i gynghorydd arall lai na blwyddyn yn ôl! Dwi'n dymuno'n dda i'r Cyng. Aled Davies sydd wedi'i ethol yn ddirprwy faer ac yn edrych ymlaen i brofi ychydig o'i frwdfrydedd yntau o gwmpas y dref.

Un peth cyn gorffen os ysgrifennodd wyres y Cyng. Mona Morris at y Cambrian news yn ddigymell rwyf yn ei llongyfarch yn fawr iawn ac yn sicr ein bod wedi clywed am rywun a fydd yn Faer Aberystwyth ei hun yn y dyfodol os nad yw'n dal swydd sydd hyd yn oed â mwy o ddylanwad, fel Prif Weinidog Cymru. Dal ati Abie!