Ar ôl pwyllgora trwy gyda'r nos pa beth gwell i'w wneud na ymlacio mewn môr o gerddoriaeth mewn cyngerdd byw. A dyna wnes i heno. Roedd Côr ABC yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed ac yn cyflwyno rhaglen lawn yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth.
Roeddwn i ryw chwarter awr yn hwyr yn cyrraedd oherwydd y pwyllgor, ond roedd hi'n wrth y drafferth i ddod 'nôl i dref o Westy'r Conrah ar gyfer y cyngerdd.
Roedd y côr wedi mynd i drafferth i gyhoeddi rhaglen sgleinog liwgar ar gyfer y noson. Roedd yn rhaid imi edrych ddwywaith pan welais i taw Alun Thomas BBC oedd yn llywyddu. Er gwaethaf y sbectel newydd fe ddarllenais i Alun Thomas OBE yn hytrach na BBC, ac nid fy mod am fychanu cyfraniad Alun i ddarlledu ond y cwestiwn cyntaf aeth drwy fy meddwl oedd "Pam ei fod e wedi cael yr OBE?". Camgymeriad ar fy rhan. Fe wnaeth ei waith yn ardderchog ac os nad yw'n cael OBE am gyfraniad i ddarlledu mae yn ei haeddu am ei waith heno.
Roedd y rhaglen yn un amrywiol a diddorol:
- Y mae fy nghalon yn gadarn O Dduw (Salm 108) - Delyth Hopkin Evans
- Mae'r dydd yn cilio - Arthur Sullivan
- Dim ond ffŵl sy'n ffoi - Bethan Bryn, geiriau: R. Arwel Jones
- Adiemus - Karl Jenkins
- Ehedydd yr awyr glir - Alan Smith, geiriau: John Stoddart
- Rhythym y ddawns - Cy Coleman, geiriau: Wyn Bellis Jones, trefniant: Richard Barnes
- Yr Aderyn - Brian Hughes, geiriau: traddodiadol
- Myfanwy - Joseph Parry, geiriau: Mynyddog, trefniant: John Hugh Thomas
- Y Tangnefeddwyr - Eric Jones, geiriau: Waldo Williams
- Llongau Caernarfon - J Glyn Davies, geiriau: traddodiadol, trefniant: Lona Phillips
- O Dduw rhanna'th fendithion - John Rutter, geiriau; Dyfnallt Morgan
- In Excelsis Gloria Deo - T Gwynn Jones, trefniant: Bryan Davies