Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.
2005-03-14
Cnocio a chnocio a chnocio
Heno, roedd cyfarfod o un o bwyllgorau neu grwpiau Morlan. Roedd y cyfarfod i'w gynnal yn swyddfa Beth-seilun. Pan wnes i gyrraedd yno am ryw 7.25pm roedd hysbysiad wrth y gloch yn dweud nad oedd hi'n gweithio ac y dylwn gnocio ar y drws. Wel dyma ddechrau cnocio a chnocio, a dim sôn am neb yn dod i'r drws. Felly dyma barhau ati i gnocio. Yn y diwedd roedd y nyrnau yn dost a dyma ddechrau mynd i banig. Wedi dechrau mynd i banig aeth pethau o ddrwg i waeth. Roeddwn yn teimlo braidd yn euog am nad oeddwn wedi bod mewn pwyllgor yr wythnos diwethaf yn ymwneud â Morlan ac felly am geisio mynd i'r cyfarfod heno. Dim sôn am ateb felly dyma ddod o hyd i rif ffôn y tŷ a ffonio hwnnw, ond heb ateb - eto i gyd roedd 'na olau ymlaen yno. Ond roedd y neges yn rhoi rhif ffôn symudol i'w ffonio ac felly dyma orfod ffonio'r peiriant ateb bedair gwaith i gymryd y rhif symudol i lawr yn iawn. Neb yn ateb hwnnw a finnau yn dechrau dod yn agos i fflipio. Dyma benderfynu ffonio GC i ofyn a oedd 'na swyddfa arall gan y Parch PLlJ. Doedd hi ddim yn meddwl ond roedd hi wedi gweld golau yn festri Capel y Morfa. Felly draw â fi i'r festri, yn y glaw a fy sbectel yn stemio. Mewn â mi i ryw gyfrafod o 30+ pan nad oeddwn i'n disgwyl ond rhyw 3 neu 4. Dim yn deall beth oedd yn digwydd, siaradwraig wrthi'n traddodi a fi yn edrych fel dyn gwyllt. Pwy oedd yn y rhes gefn ond ELlJ a dyna hi'n trugarhau wrthyf ac yn rhoi benthyg ei hallweddi i fi er mwyn i fi fynd i mewn i Bethseilun. Nid oedd reswm iddi wneud gan imi sibrwd yn reit siarp wrthi "Dwi wedi bod yn cnocio a chnocio a chnocio tu fas i Bethseilun. Dwi wedi ffodnio a gwneud popeth y gallwn i fynd i mewn. A chael dim ateb!" Fi oedd ar fai wrth gwrs, heb ddarllen y neges e-bost yn iawn oedd yn dweud taw am 8pm roedd y cyfarfod. Rhaid darllen pethau'n ofalus! Diolch i bawb wnaeth fy helpu yn fy mhanig - yn enwedig GC a ELlJ. Aeth y cyfarfod yn iawn.