Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-28

Llun y Pasg yn Aberporth

Diolch i garedigrwydd fy nghyfaill RO cefais wibdaith heddiw i dde Ceredigion a gogledd siroedd Penfro a Chaerfyrddin.

Y lle cyntaf inni ymweld ag ef oedd Aberporth. Dyma bentref sy'n ymddangos fel petai'n dibynnu'n llwyr ar dwristiaeth bellach, ac fel lle sy'n dibynnu i'r fath raddau ar dwristiaeth mae hynny wedi'i feddiannu'n llwyr. Mae'n ymddangos fod tai haf ym mhobman. Chlywais i neb yn siarad Cymraeg o gwbl chwaith, ond efallai nad yn y Beach Cafe a Thafarn y Ship y buasai disgwyl gweld 'brodorion' ddydd Llun y Pasg.

Wrth gwrs, nid yw'n syndod fod cymaint am ddod i'r pentref i fyw neu i dreulio'u gwyliau. Mae'n lle braf iawn, er buasai wedi bod yn brafiach petai'r haul wedi tywynnu. Ond gallwch chi ddim disgwyl cael popeth ar ŵyl y banc cyn diwedd mis Mawrth.



Mae dau draeth yn Aberporth wedi'u gwahanu gan drwyn o dir - y traeth gogleddol yw Traeth Dyffryn, a'r un deheuol yw Traeth y Plas. Yn Nhafarn y Ship roedd y ddwy ochr i'r dafarn wedi'u henwi yn Bar y Dyffryn a Bar y Plas. Yn y Ship y cawsom ni ginio - ges i basati cig a lwlod, ac RO bizza. Roedd y bwyd yn iawn, heb fod yn codi'n uchel. Ond roedd y lle yn lla a threfnus ac roedd y weinyddwraig yn ddigon serchog heb fod drostoch chi i gyd fel mae rhai'n medru bod gydag ymwelwyr.

Mae mwy o luniau ar gael o'n hymweliad ag Aberporth.