Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-28

Y Pasg

Ffenest liw yn Eglwys S. Mair, AberystwythFel arfer diwrnod o addoliad a mawl yw Sul y Pasg i mi. Dau wasanaeth heddiw - Cymun Bendigaid am 10.00am a Hwyrol Weddi am 6.00pm. Roeddwn yn darllen yn y Cymun am fod MP, un o wardeniaid yr eglwys, yn dost ac yn methu dod mas o'r tŷ yn hawdd iawn. Roeddwn hefyd wedi addo gosod rhestr o ddarllenwyr llithoedd am y mis oedd yn dod dros Dr HW. Roedd yr eglwys yn llawn, fel arfer, ar gyfer y Pasg gyda'r adeilad wedi'i

Fi oedd yn gyfrifol am arwain y gwasnaeth nos, yr Hwyrol Weddi, a chyda help GW yn canu'r organ fe aeth pethau'n iawn. Gan fod cynifer yn mynd i'r Cymun nid oes rhyw lawer yn dod i'r gwasanaeth yn yr hwyr ddydd y Pasg, felly fe benderfynais i droi'r Hwyrol Weddi yn wasanaeth o fyfyrio ar yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod y dydd a'r Wythnos Fawr. Wrth gwrs, nid oedd hi'n bosib i bopeth fod yn dawel iawn, gan fod emynau'r Pasg yn medru bod yn fuddugoliaethus iawn. Ond yn y diwedd dwi'n credu imi gael y balans yn iawn yn y drefn a ddefnyddiwyd. I mi roedd cael defnyddio Anthemau'r Pasg yn bwysig oherwydd y traddodiad hir o'u defnyddio ar y dydd hwn. Dyma hwy wedi'u gosod allan i'w canu yn ôl siant Anglicanaidd o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru.
Crist ein Pasg ni a aberthwyd / drosom / ni : am / hynny / cadwn / ŵyl;
Nid â hen lefain * nac â lefain malais / a dryg/ioni : ond â bara croyw / purdeb / a gwir/ionedd.
Nid yw Crist, * wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw,* yn / marw / mwyach : nid yw marwolaeth yn arglwydd/iaethu / arno / mwyach.
Canys fel y bu farw * bu farw / unwaith · i / bechod : ac fel y mae'n byw,* / byw y / mae i / Dduw.
Felly chwithau hefyd,* cyfrifwch eich hunain yn / feirw · i / bechod : eithr yn fyw i Dduw yng / Nghrist / Iesu · ein / Harglwydd.
Crist a gyfodwyd oddi / wrth y / meirw : ac a wnaed yn / flaenffrwyth · y / rhai a / hunodd.
Canys gan fod mar/wolaeth · trwy / ddyn : trwy ddyn hefyd y mae / atgy/fodiad · y / meirw.
Oblegid megis yn Adda y mae / pawb yn / marw : felly hefyd yng / Nghrist · y byw/heir pawb.
Gogoniant i'r Tad, / ac i'r / Mab : ac / i'r / Ysbryd / Glân;
Megis yr oedd yn y dechrau, * y mae'r awr hon, ac y / bydd yn / wastad : yn oes / oesoedd. / A/men.