Ychydig o hanes yr ISBN
Datblygodd yr ISBN yn wreiddiol o'r SBN (Standard Book Number) a ddefnyddid mewn gwledydd Saesneg eu hiaith. Roedd hi'n bosib troi SBN yn ISBN trwy ychwanegu '0' ar y dechrau. Roedd yr SBN wedi'i ddatblygu yn ystod 1960au wrth i gyfrifiaduron ddechrau gwneud eu marc yn y byd cyhoeddi a llyfrwerthu. Mae'n ddull o ddynodi llyfr yn unigryw – dylai ISBN ddynodi un argraffiad penodol o lyfr a dim ond yr argraffiad hwnnw. Weithiau mae 'na gymhlethdodau yn codi lle mae 'na gymysgu ISBNs, &c. yn digwydd, ond ar y cyfan mae'n llwyddo i hyrwyddo marchnad lyfrau ryngwladol.
Mae'r ISBN ar hyn o bryd yn cynnwys 9 rhif ac un rhif gwirio. Esbonir sut mae'r rhif gwirio yn gweithio isod.
Mae'r rhif ISBN yn rhannu'n dri. Mae'r cyntaf yn dynodi iaith neu wladwriaeth lle cyhoeddir y gwaith. Mae'r ail ran yn dynodi'r cyhoeddwr a'r trydydd yn dynodi'r rhif llyfr ei hun. Weithiau fe'u rhennir gan stracs. Dyma enghraifft o ISBN ar gyfer llyfr o'r Almaen: 3-88053-101-3; mae hwn yn dangos y tair rhan a'r rhif gwirio.
Y rhif gwirio
Dyma sut mae llawlyfr swyddogol yr ISBN yn esbonio'r rhif gwirio:
The check digit is the last digit of an ISBN. It is calculated on a modulus 11 with weights 10-2, using X in lieu of 10 where ten would occur as a check digit.
This means that each of the first nine digits of the ISBN – excluding the check digit itself – is multiplied by a number ranging from 10 to 2 and that the resulting sum of the products, plus the check digit, must be divisible by 11 without a remainder.
For example: ISBN 0-8436-1072-7:
As 198 can be divided by 11 without remainder 0-8436-1072-7 is a valid ISBN. 7 is the valid check digit.
Mae llawer o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol am yr ISBN a'r newid i ISBN 13 rhif ar wefan Llyfrgell ac Archifau Cenedlaethol Canda. Mae'n werth ymweld รข'r wefan i ddarllen yr holl fanylion eich hun.