Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-11

Dilyn ôl troed

Heno fe fues i yn Amgueddfa Ceredigion ar gyfer agoriad arddangosfa o ffotgraffau gan Marian Delyth a'i thad, T. R. Jones. Yn yr arddangosfa, Dilyn ôl troed, mae Marian yn arddangos ei gwaith ei hun, gwaith ei thad a chyfuniadau o'i gwaith ei hunan ac un ei thad. Mae'r arddangosfa yn dangos pwysigrwydd a dyfnder y berthynas sy'n bodoli nid yn unig â theulu ond â llefydd, cynefin, ac â chymuned.


Marian yn gorfod derbyn tynnu ei llun gan y ffotograffydd Arvid Parry Jones.

Mae ymrwymiad Marian Delyth i'w chelfyddyd yn rhywbeth dwi'n rhyfeddu ato'n gyson. Mae hi'n byw ei gwaith, ond mae'r arddangosfa hon yn mynd yn bellach - mewn rhyw ffordd o siarad yr arddangosfa yw ei bywyd. Dyma ei theulu o flaen ein llygaid, dyma ei pherthynas â'i perthnasau yn rhywbeth i ni edrych arnyn nhw a bod yn rhan ohono. Llun o beiriant gwnïo ei mam, llun o deipiadur ei thad, ond erbyn hyn yn greiriau sy'n cysylltu'r ffotograffydd â phresenoldeb y rhai sy bellach yn absennol. Yn yr un modd yn gywir ag y mae'r ffotograffau eu hunain yn presenoli yr hyn sydd wedi diflannu, ac eto sy'n dal i fodoli ac i fod yn bresennol mewn delweddau.

Yn y ffotograffau sy'n gyfuniadau o ddelweddau o'r gorffennol a'r presennol mae ffin amser wedi diflannu. Efallai taw dyma'r gwaith mwyaf agos-atoch. Dyma'r "cwmwl tystion" y mae Marian yn byw yn eu plith, dyma'r etifeddiaeth y mae hi wedi'i derbyn, dyma'r etifeddiaeth y mae am ei throsglwyddo i'r rhai fydd yn byw ar y darn yma o dir yn dyfodol. Dyma'r presenoldebau y mae llawer ohonom yn byw gyda nhw o ddydd i ddydd, neu pan fyddwn yn dychwelyd i'n milltiroedd sgwâr – mae'n digwydd i bawb ym mhob man, ond eto, i Gymry mae presenoldeb iaith yn trawsnewid y berthynas i fod yn un llawer dyfnach yn ein golwg ni.

Credaf i fod hyn yn un o'r pethau y mae Marian yn ceisio ei gyfleu. Er nad yw ffotograff yn cynnwys iaith fel y cyfryw, mae'n amlwg yn yr arddangosfa oherwydd mewn sefyllfa iaith llai ei defnydd dyma un o'r pethau sydd yn clymu rhywun â'i deulu, â'i gymnued. Bydd cymaint o'r rhai fydd yn dod i'r arddangosfa yn deall hyn yn iawn. Ond i eraill bydd elfennau gwahanol yn siarad â hwy oherwydd fod cymaint o bethau sy'n ein cysylltu, neu mae'n well dweud 'clymu' oherwydd nid dewisol yw hyn, â'r hyn nad yw bellach yn bresennol yn gorfforol. Mae hyn i weld drwy waith Marian, o'r ffotograffau teuluol yma hyd at ei gwaith ar gyfer y gyfrol hudolus Cymru o hud.


Dau feirniad yn mwynhau'r arddangosfa.

Mae'r arddangosfa yn rhedeg yn eironig ddigon tan ddydd Gŵyl San Siôr, sef 23 Ebrill. Dwi mor falch fy mod i wedi llwyddo mynd i'r agoriad, ond dwi'n credu y bydd yn rhaid imi fynd yn ôl unwaith eto er mwyn cael mwy o gyfle i ddeall yn bellach beth mae Marian yn ei wneud ac yn ei ddweud yma. Byddwn i'n awgrymu ei bod hi'n werth ymweld â'r arddangosfa i weld beth fydd eich ymateb chi. Mae hi am ddim!

Wedyn daeth cyfle i fynd mas i dafarn Scholars gyda nifer o ffrindiau a chyda'r ffotograffydd ei hun. Roedd sŵn cerddoriaeth bron â bod yn fyddarol pan wnaethon ni gyrraedd y tafarn, ac roedd yn rhaid imi ofyn i'r fenyw tu ôl i'r bar dawelu ychydig arno. Ac yn garedig iawn fe wnaeth hi hynny. Bues i yno tan rhyw 10.15pm, ac er mor ddifyr a melys y cwmni – Dr MWR, DJP, Elwyn, IBJ, Dr DAG, IJ, &c. – roedd yn rhaid mynd adre i wneud ychydig waith a chael gair gyda RO ar y ffôn ynlgŷn â phethau.