Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-19

Heddwch, cyfiawnder a choffi

Heddiw roedd Gŵyl Heddwch Cymru yn digwydd yn Aberystwyth, ond dwi'n ofni er cymaint fy nghefnogaeth es i ddim iddi. Yn hytrach fe wnes i dreulio fy nydd yn yfed coffi.

Codais i'n gynnar er mwyn gwneud y peth hyn a'r peth arall, gan gynnwys cyhoeddiadau'r eglwys. Ac erbyn rhyw 9.05am roeddwn yn eistedd yn y Caban yn yfed fy nghoffi ac yn darllen fy Dutch in three months. Dyma Elwyn yn cyrraedd rhyw 9.40am ond roedd yn rhaid imi fynd o fewn ychydig funudau.


Menywod y stondin moes a phryn.

Am 10.00am roedd Eglwys S. Mair yn cynnal y bore coffi arferol yn y Garawys. Caiff y bore ei gynnal yn y Rheithordy ac fel arfer dwi'n cynorthwyo. Ond heddiw roedd pobol eraill yn gwneud y gwaith a dim ond eistedd o gwmpas yn siarad gyda phobol bues i. Roedd 'na stondin gacennau yno hefyd ac fe brynais i dorth o fara gan Mrs ME a chacen farmor siocled.

Cefais gino gyda'r cyfaill annwyl RO. Trafodwyd popeth o dan haul, gan gynnwys y rygbi wrth gwrs. Ers wythnosau bellach dyna'r unig beth sydd wedi bod yn y Western mail ac o'r herwydd mae'r papur wedi mynd yn ddiflas iawn. Dim ond ar ddydd Sadwrn dwi'n ei brynu'n rheolaidd bellach a hynny er mwyn y cylchgrawn i weld beth sydd ar y teledu, ac i ddarllen colofnau Lefi Gruffudd, Meleri Wyn James, a Fflur Dafydd. Ond er gwaethaf y colofanu hynny, ac un Mario Basini, dim rhyfedd fod sut stad ofnadwy ar drafodaeth materion cyhoeddus os taw dyna'r unig bapur cenedlaethol sydd ar gael. Ond mae'n amlwg fod Rhodri Morgan yn gwybod yn iawn sut i odro'r peth gan dalu sylw at y rygbi bron ym mhob llinell o'i araith i gynhadledd y blaid Lafur yn Abertawe.