Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-18

Ymateb i S. Padrig

Dyma ichi nodyn dderbyniais yn bersonol oddi wrth CG ond sy'n berthnasol i'r blog ac allai fod o ddiddordeb. Mae'r safle mae hi yn sôn amdano yn werth ymweld ag ef.
Wedi ca'l cipolwg ar dy flog bore 'ma a sylweddoli gymaint ma' pryd bach ffein o fwyd a chwmni da yn nodwedd o dy wythnos. Neis iawn. Os nad o's ffobia clêr 'da ti yn ogystal â pryfed cop, cymer olwg ar y safle 'ma 'te, i ti gael y pleser o whare'n gelfyddydol 'da bwyd - a bod yn rhan o draddodiad mawr yr artistiaid o'r Is-Almaen yr un pryd. http://www.laidtable.co.uk/

Dim ond un peth sy'n fy mhoeni – y defnydd o "Is-Almaen"! Ond diolch am y cyswllt diddorol.