Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-25

Gwener y Groglith

Y Parchg Ganon SRB yn annerch y dorf ddydd Gwener y GroglithRhaid imi gyfaddef imi godi'n rhy hwyr i gyrraedd y gwasanaeth yn Seion ar gyfer Gwener y Groglith, ond fe wnes i ymuno â'r orymdaith drwy'r Stryd Fawr sydd wedi dod yn rhan o ddathlu'r Groglith yn Aberystwyth bellach.

Wedi darlleniad ac emyn ger y Cloc fe orymdeithiodd cannoedd i lawr i'r sgwâr tu fas i Siop y Pethe pan siaradodd y Parchg Ganon SRB ac fe gafwyd darlleniad arall ac emyn. THema SRB oedd ein rhan ni yng nghroeshoeliad Crist. Fe ddarllenwyd darn o hanes y croeshoelio allan o'r efengyl yn ôl S. Marc:
Daethant ag Iesu i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog." Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef. A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a gâi pob un. Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef. Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: "Brenin yr Iddewon." A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo. Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun." A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio. A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, "Eloï, Eloï, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?" O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias." Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr." Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."

Fel y dywedais roedd nifer sylweddol ar yr orymdaith a'r heddlu yn gwneud yn siŵr nad oeddem yn achosi unrhyw drafferth yn y Stryd Fawr. Mae'n rhaid eu bod nhw'n cofio'n ôl i'r orymdaith fawr brotest yn erbyn datgysylltu'r eglwys a gynhaliodd eglwyswyr Ceredigion yn 1912. Roedd popeth yn iawn nes i'r gorymdeithwyr ddod wyneb yn wyneb â'r anghydffurfwyr tu fas i lle mae Banc HSBC heddiw. Fe welwyd golygfeydd salw - 'stand off' fyddai'r disgrifiad gorau! Mae pethau mor wahanol heddiw - heddiw sefyll gyda'n gilydd yr ydym fel Cristnogion ac mae'r 'stand off' gyda'r gymdeithas secwlar o'n cwmpas.

Un o'r bobol wnes i weld ar yr orymdaith oedd M, mam BD - yn serchog a llawn bywyd fel arfer. Mae hi wedi dod lan i aros gyda RD a BD tra bo'i thŷ yn Llanelli yn cael ei addurno.