Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-25

Lydia

Lydia - ymladdwr dros heddwch a chyfiawnderDdiwedd y prynhawn dyma finnau a RO yn galw heibio i dafarn Varsity am gwpanaid o goffi. Yn Varsity fe welais i Lydia. Roeddwn i wedi dod ar ei thraws yn gyntaf oll wrth ymgrychu yn erbyn Rhyfel Irác. Roedd hi'n gwbwl ymroddedig, ond yn dipyn o sbort. Saesnes yw Lydia ond mae hi ar ddechrau am daith o gwmpas Cymru yn codi ymwybyddiaeth am y cyfarfod G8 yn yr Alban ac yn ceisio annog pobol i brotestio am faterion sy'n berthnasol i Gymru yn hyn i gyd. Dyma beth sydd gan ei thaflen i'w ddweud am eu bwriad.

Taith feic y blodeuo
Taith feicio, yn aros mewn trefi a dinasoedd yng Nghymru yn hybu heddwch, cyfiawnder a datblygu cynaliadwy yn y cyfnod cyn uwgynhadeldd yr G8 yr haf hwn, 6-8 Gorffennaf, yn Gleneagles, yr Alban.

Creu agenda Gymreig i'r G8
DFewch i gyfrannu, i ddweud beth hoffech chi i'r G* ei wneud i chi, i Gymru ac i'r Byd. Bydd y syniadau yn cael eu cyflwyno i Rhodri Morgan, ac yn cael eu trosglwyddo i arweinwyr y byd yn uwchgynhadledd yr G8.

Datblygu cynaliadwy a meddwl yn ecolegol
Dew i roi trydan yn eich ffôn symudol am ddim, chwarae'r caneuon ffynci yna, a gwneud paned bach o de i'ch hunan. Gallwch wneud hyn i gyd drwy bedlo ar fy meic arbennig i, sydd wedi ei ailgychu. Oes, mae modd cael ynni o feic - a beic sydd wedi ei ailgylchu hefyd!
Mae'n bosib cysylltu gyda Lydia ar 07813 079583, neu gyda'i swyddog i'r wasg, Megan Ceredig, ar 01970 612968. Fe noddir y daith gan Craft.