Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-14

Dydd Sul ond dim llawer o orffwys

Roedd dydd Sul yn reit brysur gan fy mod yn rhoi sgwrs fer i'r plant wrth agor yr ysgol Sul ac yn pregethu gyda'r nos. Ar ôl cyffro yr wythnos diwethaf gellid disgwyl i bethau fod yn dawelach, ond roedd digon i'w wneud.

Mae'n bumed sul yn y Garawys, pythefnos tan y Pasg, ac yn gychwyn Tymor y Dioddefaint a chofio yr hyn a oedd yn gorfodi Crist i fynd i Jerwsalem i ddioddef marwolaeth ar y groes er ein prynedigaeth. Thema fy mhregeth gyda'r nos oedd ceisio dod o'r newydd at hanes y dioddefaint gan holi 'pam?' fel sy'n naturiol yn wyneb dioddefaint a chael yn achos Iesu fod 'na ateb i'w gael. Yn y bore roeddwn wedi edrych ar y gair 'rhaid' a beth sy'n rhaid i ni wneud yn ein bywydau bob dydd a beth sy'n ein gorfodi i wneud pethau. Yna edrych ar Iesu a'r cariad oedd ganddo tuag atom ni a'i gorfododd ef i ddilyn ffordd y groes.

Cinio fel arfer ym mwyty Tŵr y Cloc. Cyfeillion ynghyd i fwynhau cwmni a bwyd. Digon o drafod, peth ar y rygbi, a llawer ar restr hir Llyfr y flwyddyn 2005.