
Yn y bore cafwyd cyflwyniad gan Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am y sefyllfa hyd yn hyn a'r ffordd yr hoffai y Gymdeithas weld pethau'n datblygu. Yna cafwyd cyflwyniad gan Elin Haf Gruffudd Jones ar yr egwyddor o gynnwys gwasanaethau yn y ddeddf yn hytrach na deddfu ynglŷn â phwy sy'n darparu'r gwasanaeth.
Prif gyfraniad y bore oedd papur sylweddol gan Hywel Williams, AS Caernarfon, ar ei fwriad i gyflwyno mesur deddf iaith yn y Senedd. Amlinellodd sut yr oedd ef yn gweld yr angen a'r posibiliadau o lwyddo. Dilynwyd ei gyfraniad yntau gan drafodaeth ford gron o dan arweiniad Sulwyn Thomas, Caerfyrddin a dyna pryd y gwnaeth Meri Huws ei chyfraniad allweddol.
Yn y prynhawn cafwyd cyflwyniad gan Jill Evans, ASE, yn amlinellu beth sy'n digwydd ar lefel Ewropeaidd o ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill nad ydynt yn ieithoedd gwaith llawn yr Undeb Eropeaidd. Mae hi'n ymgyrchu am wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd gyda'r un hawliau â'r hyn y mae llywodraeth Sbaen wedi'u haddo i Fasgeg, Catalaneg a Galisieg.
Dilynwyd cyfraniad Jill gan gyfres o weithdai am beth fyddai cynnwys deddf iaith, sut i fonitro ei gweithredu, a sut i sicrhau fod deddf iaith yn cael ei phasio.
Diwrnod buddiol iawn o gynhadledda. Diolch i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am drefnu diwrnod mor adeiladol a phositif!