Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-26

Da iawn ti, Salvacion Orge!

Efallai fod gwleidyddiaeth plaid yn digalonni dyn fwyfwy, ond mae ysbryd pobol i fynnu'r hyn sy'n iawn yn dal i godi calon. Heddiw dyma ddarllen am hanes Salvacion Orge o'r Pilipinas sy'n protestio ar fwrdd un o longau fferi Irish Ferries. Roedd hi wedi colli'i gwaith yn dilyn rhaglen ar deledu Iwerddon, RTÉ, yn dangos ei bod hi'n gweithio ar long fferi fel "therapydd harddwch" ar gyflog o ychydig dros 1 ewro (70 ceiniog) yr awr. Ond mae hi'n gwrthod gadael y llong erbyn hyn, nes ei bod hi'n cael ei thrin yn well a chael yr hyn sy'n iawn iddi.