Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-26

Beth sy'n digwydd i wleidyddiaeth?

Roedd pethau'n dechrau edrych yn ddu iawn i Lafur ganol yr wythnos gyda'r gwirionedd am gyngor cyfreithiol y Twrne Cyffredinol am gyfreithlondeb rhyfel Irác yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg. Credwn i buasai dangos Tony Blair i fod yn gelwyddgi, neu'n rhywun oedd yn fodlon bod yn greadigol gyda'r gwirionedd, yn siŵr o wneud ei achos dros gael ei ail-ethol fel prif weinidog yn wan iawn.

Roeddwn i'n dechrau poeni hefyd, mewn rhyw ffordd wyrdroedig, y gallai'r Torïaid wneud yn well na'r disgwyl. Mae'n anodd gwybod beth sy'n fy mhoeni fwyaf gan fod Llafur Newydd Tony Blair yn fwy Tori na'r Toris yn aml iawn os nad fel arfer erbyn hyn. Ond yn y diwedd mae'n rhaid i mi gyfaddef fod y Toris go iawn yn dal i godi mwy o ofn arna i.

A wedyn dyma achos Howard Flight yn dod i newid hynn'na i gyd. Tori yn cyfaddef fod y Torïaid yn cadw eu bwriadau am dorri gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yn guddiedig hyd nes wedi'r etholiad cyffredinol. Nawr dyw hi ddim yn syndod i mi ein bod yn gweld y Toris hefyd yn gelwyddog, neu'n greadigol gyda'r gwirionedd.

Yn anffodus mae lle i ofni fod yr agwedd hon yn treiddio trwy fywyd gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Bydd hyn yn gwneud pobol yn llai parod byth i ymwneud â gwleidyddiaeth, llai parod byth i fod yn weithredol, llai parod i bleidleisio hyd yn oed. Felly er mor bleserus yw hi i weld Llafur Newydd a'r Torïaid yn colli wyneb a hygrededd, yn y pendraw nid yw'n dda i wleidyddiaeth, na'r rheiny ohonom sy'n ymddiried yn y drefn wleidyddol i ddod â newid. Bydd yn rhaid i rywbeth roi cyn bo hir.