Un o drysorau cudd Cymru yw Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Mae'r wefan yn rhestri rhai o fanteision aelodaeth. Dwi'n mentro eu hatgynhyrchu yma gan annog rhai nad ydynt yn aelod i ystyried ymuno.
Beth yw manteision ymuno â’r Cyfeillion?Dylai hynny ysgogi rhywun i ymateb!
Drwy ymuno â Chyfeillion y Cyngor Llyfrau, byddwch yn derbyn gwybodaeth reolaidd am y byd llyfrau yng Nghymru a hynny mewn pecynnau tymhorol sy’n cynnwys deunydd megis:
- Copi o’r cylchlythyr dwyieithog Y Cyfaill ddwywaith y flwyddyn – cylchgrawn bywiog a gyhoeddir yn arbennig ar gyfer y Cyfeillion.
- Gwybodaeth gynhwysfawr yn rhestru’r holl lyfrau a gyhoeddwyd yn ystod y misoedd blaenorol, ynghyd â rhestr o lyfrau i ddod.
- Tocyn mantais gwerth £2.50 ym mhob pecyn, i’w gyfnewid am lyfr o’ch dewis.
- Copi am ddim o’r cyfnodolyn Y Llyfr yng Nghymru, sef cyhoeddiad blynyddol Canolfan y Llyfr Aberystwyth.
- Gwahoddiad i Gyfarfod Blynyddol y Cyfeillion.
- Copïau o gatalogau llyfrau a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau, yn ogystal â chatalogau a baratoir gan amryw o gyhoeddwyr yn rhestru eu llyfrau diweddaraf.
- Rhestr gyflawn o’r llyfrau fydd yn cael eu cynnig am hanner pris neu lai yn arwerthiant blynyddol y Cyngor Llyfrau.