Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-13

Ympryd y Garawys

Amser cino fe fuodd y criw yn trafod beth yw Garawys. Gellir dweud un peth yn bendant, mae'r Garawys wedi'i drifialeiddio, er mwyn inni gael osgoi ei her. Nid mater o beidio â bwyta siocled, neu beidio â chymryd siwgr yn eich coffi yw ympryd mewn gwirionedd. Mae gan Gyngor Eglwysi'r Byd raglen o'r enw Decade to overcome violence (DOV) ac fel rhan o'r rhaglen honno maen nhw'n cynnig adnoddau i alluogi pobol i ymprydio rhag trais. Alla i ddim meddwl am ddim sy'n cydfynd yn well gyda'r darlleniad cyntaf a ddefnyddiwyd yn Ebeneser, Penparcau heddiw. Daeth y darlleniad allan o lyfr y proffwyd Eseia, lle mae sôn am beth yw gwir ympryd:
"Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau? Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun? Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr Arglwydd yn dy ddilyn". (Eseia 58)
Yn wythnos gyntaf y Garawys fe gawn ein hannog i feddwl am effaith gemau fideo treisgar ar bobol ifainc. Mae'r adnoddau yn cynnwys cyfeiriad at restr o gemau fideo nad ydynt yn dreisgar ac at fudiad o'r enw Mothers against Violence.