Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-13

Postio sylwadau a chanlyniadadu dweud pethau na ddylid eu dweud

Dwi'n ofni nad yw'r gallu i bostio sylw wedi'i adfer i fy mlog hyd yn hyn. Dwi'n teimlo'n euog fod cymaint yn dweud eu bod nhw'n darllen y blog ac eto yn methu ymateb yn uniongyrchol. Byddwch amyneddgar gyfeillion! Gobeithio'n fawr y bydd y gwe-gam yn mynd peth o'r ffordd i wneud iawn am y drafferth.

Fe wnes i ddweud ychydig yn ôl nad oeddwn i'n mynd i sôn dim am fy ngwaith ar y blog. A pheth doeth oedd hynny gan fy mod newydd ddarllen hanes am ddyn a gollodd ei swydd yn yr Alban am sylwadau ar ei flog! Fe wnaeth Morfablog sylw am y peth hefyd ac mae'n cynnig cyswllt i wybodaeth am bobol eraill sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i flogio.