Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-14

Eisiau newid o Radio Cymru

Ydych chi'n cael digon ar wrando ar Radio Cymru weithiau a jyst eisiau rhyw fath o newid. Wel mae 'na wasanaeth radio Cymraeg arall i'w gael, sef Radio Acen. Mae'n llawn cerddoriaeth Gymraeg os dyna beth ych chi chwilio amdano. Yr unig beth sy'n rhaid ei oddef yw gwersi Cymraeg rhwng y caneuon. Mae'n ddiddorol am dipyn, 'ta beth. Gwelais i gyfeiriad at y orsaf ar Morfablog. Fe glywais i cân Dafydd Iwan 'Y wên na phyla amser' yn cael ei defnyddio fel gwers ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Roedd yn f'atgoffa i o rywbeth oedd yn arfer bod ar y BBC World Service slawer dydd o'r enw Pedagogical Pop yn ceisio dysgu Saesneg drwy ganeuon pop.