Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-09

Ymateb

'Nôl i'r gwaith heddiw a chael syrpreis hyfryd, roedd rhwyun wedi ymtaeb i fy mlog. Roedd CB wedi ceisio cael neges trwyddo yn defnyddio'r sianelau pwrpasol ond wedi cyfnod o rwystredigaeth wedi methu, ac wedyn wedi cysylltu â mi drwy e-bost yn uniongyrchol. Yn y lle cyntaf hoffwn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi ceisio ymateb i'r blog, ac yn ail diolch i CB am ymateb.

Roedd CB wedi bod yn darllen y Guardian fel fi ddydd Sadwrn ac wedi sylwi ar stori ddiddorol iawn yn yr adran. Dyma beth oedd gan CB i ddweud yn ei neges:
Mi wn i ti ddarllen y Guardian ddydd Sadwrn, oherwydd fe ddyfynnaist yr un beirniad teledu ag y bum i'n ei ddarllen yn canmol rhaglen Robert Kilroy Silk (oedd - roedd hi yn rhaglen ddifyr!). Beth bynnag, os yw'r cylchgrawn 'Weekend' yn dal i fod gen ti, hoffwn i dynnu sylw cangen newyddanedig/atgyfodedig Ceredigion o CYI (y cawsom ei hanes yr wythnos ddiwethaf gennyt) i dudalen 57 - yr adran SPACE, sy'n trafod be' sy'n ddeniadol a threndi o ran diwyg y cartref (fydda i ddim fel arfer yn darllen hwn, ond roeddwn yn y bath heno a doeddwn i ddim yn barod i ddod allan, felly darllenais i bob tudalen o'r cylchgrawn). Mae na erthygl yma yn trafod 'seaside living', ac yn benodol y cylchgrawn 'Coast' - 'a bimonthly magazine dedicated to living by the sea in Britain'.

Dyma em neu ddwy o'r erthygl (fer iawn):
'Coast favours the wilderness of Anglesey..."Of course we're guilty of hastening the process of these places' development" admits Ebben. "That's our Catch 22".
'...who suggests the lesser charted territory of Pembrokeshire and Cardiganshire. but you'd better hurry. ...demand for seaside refuges has increased by 25%-30% in the past few years. A two bedroom cottage in Tenby or St David's, say, already costs £175,000 minimum'.
Wel dyna ni. Well i ni frysio te cyn iddyn nhw i gyd gael eu gwerthu.
Os ych chi am ddarllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd mae ar wefan y Guardian. Mae gan y cylchgrawn Coast wefan ond nid yw'n rhoi testun yr erthygl yn ei gyfanrwydd.