Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-09

Syndod yn y ciw bwyd

Mae sawl un wedi holi imi pam nad ydw i'n sôn dim am fy ngwaith ar y blog. Wel, fe fyddai'n rhy beryglus. Mae'r rhai ohonoch chi sy'n gweithio mewn swyddfa neu gyda phobol eraill yn gwybod rwybryd neu'i gilydd mae rhwybeth neu rywun yn siŵr o'ch cythruddo. Fe fyddai'n gymaint o demtasiwn i ddefnyddio'r blog i ymateb a dweud pethau ffôl y buaswn yn 'difaru gwneud yn ddiweddarch. Felly y peth gorau yw peidio â dechrau arni.

Ond dwi'n fodlon sôn am bethau eraill sy'n digwydd o gwmpas y gwaith. Er enghraifft heddiw wrth giwio i estyn condimentau a dŵr i'w yfed yn y ffreutur dyma rhywun yn dweud ei bod yn cael y blog yn ddiddorol. Diolch GH!

Cefais ginio gyda CG, roedd DJP wedi mynd i nyddu yn ei awr ginio. Trafod tipyn o bopeth, a dyma MAO yn galw heibio a dal i drafod. Fel un sydd heb blant dwi'n ei chael hi'n ddifyr i glywed sut mae rhieni o'r un oed â mi yn ymwneud â'u hepil. Roeddwn yn dweud wrth CG fy mod yn meddwl amdani hi a'i merch wrth wylio y gyfres deledu Con passionate ar S4C lle mae mam a merch gwbl wrthweithiol – Judith a Gwenllïan – yn yr ystyr na allwn i ddychmygu pedair sy'n fwy gwahanol i'w gilydd!