Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-08

Heddiw yw heddiw


Ond ddoe yw ddoe. Roedd heddiw yr un mor gyffrous. Bues i lawr yn yr Ymchwiliad cyhoeddus i Gynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion yn Aberaeron er mwyn rhoi fy nhystiolaeth ger bron yr arolygwyr, sef Stephanie Chivers ac Alwyn Nixon.Roedd yn brofiad digon difyr i ddweud y gwir, ond dwi ddim yn gwybod a wnaiff y beth yr un iot o wahaniaeth. Eto i gyd roedd yr arolygwyr yn sicrhau ein bod yn cael dweud ein dweud wrth gynrychiolwyr y Cyngor.

Fe es i lawr gyda'r Cynghorydd RO (Plaid Cymru) o Drefeurig. O gwmpas y bwrdd ac yn dadlau yn erbyn rhagamcanion poblogaeth ac anghenion tai y Cyngor roedd MN o Dal-y-bont, y Cynghorwyr CS (Gwyrdd) a SJ-D (Plaid Cymru) o Aberystywth. Ar yr un bwrdd ond yn dadlau'n gwbl wahanol, sef dros boblogaeth uwch a mwy o dai, roedd dau gynrychiolydd y diwydiant adeiladu. Ac yna cynrychiolwyr Adran Gynllunio y Cyngor Sir: y cyfreithwr Mark Dyson, y cynllunwyr Llinos Thomas, Tim Ball a Russell Hughes-Pickering, yr ymchwilydd Jamie Thorburn, a chynrychiolwyr o gwmni arolwg oedd wedi gwneud Arolwg Anghenion Tai ar gyfer y sir.

Roedd y dydd wedi cael ei osod o'r neilltu ar gyfer trafod methodoleg y rhagamcan boblogaeth, methodoleg nifer y tai, ac effaith hyn ar y Gymraeg. Cafodd pawb ddweud ei ddweud. Ond yn anffodus doedd dim amser ar ôl i drafod y Gymraeg yn llawn felly roedd yn rhaid i hynny gael ei ohirio tan ddechrau 'fory (dydd Mercher). Ond fe ges i wneud sawl pwynt ynglŷn â'r agweddau hyn ar y cynllun. Bydd cyfle i ymateb eto.

Wedi dod adref roedd gen i gyfarfod arall, sef cangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru. Cafwyd cyfarfod da iawn ac fe benderfynwyd ac fe gawsom ein hatgoffa o nifer o bethau. Dau beth yn benodol sy'n werth cofio.
Nos Wener 11 Chwefror cynhelir noson grempog a gwin yng Nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail am 7.30pm.
Nos Wener 25 Chwefror cynhelir ocsiwn i godi arian i'r ymgyrch etholiadol yng Nghwesty'r Grannell, Llanwnnen am 7.30pm. Mae catalog wedi'i baratoi ac fe ellir rhoi eich cynigion i mewn ymlaen llaw, yn arbennig os nad ydych yn medru dod ar y noson.