Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-23

Ychydig bach yn well

Mae'n fore Mercher ac am y tro cyntaf dwi'n dechrau teimlo ychydig bach yn well - diolch i ddigon o gwsg, gofal DML, Lemsip Superdrug a Potter's Elder flowers with peppermeint & composition essence. A ydw i'n rhy obeithiol wrth feddwl am fynd 'nôl i'r gwaith 'fory dwi ddim yn siŵr.

Achos 'mod i'n teimlo'n sal ac heb fod wedi bod yn siopa yr wythnos ddiwethaf o gwbwl roedd rhaid nwyddau wedi mynd yn brin, ac felly dyma gofrestru gydag Iceland ac maen nhw i fod ddod â negeseuon erbyn amser cinio.