Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-24

Deall problemau polisi amaeth cyffredin yr UE

Ar ôl bod yn dost yn y gwely am bedwar diwrnod dwi'n dechrau dod i ddeall problem y polisi amaeth cyffredin ychydig bach yn well. Os ydw i fel unigolyn yn medru cynhyrchu'r môr o fflem a'r mynydd o smwt dros yr wythnos a aeth heibio, yna nid yw'n rhyfedd ei bod hi'n broblem ceisio cael ffermwyr Ewrop i dorri 'nôl ar yr hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu. Wrth gwrs mae gwin, olew, menyn a chaws yn llawer mwy deniadol na fflem a smwt, ac yn haws i'w werthu ar y farchnad agored.