Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-22

Dal i fod yn sal

Mae'n 5 o'r gloch y bore a dwi'n methu cysgu mwy. Dwi wedi bod yng nghwsg am yn agos i 1 awr wrth i'r annwyd fy nghadw yn y gwely. Bues i mas ddydd Sul yn y bore - roeddwn i'n teimlo'n ddigon da i wneud fy nyletswyddau yn siarad i gynulleidfa aml-oed yn Eglwys S. Mair a beth oedd ystyr y Garawys. Ond yn raddol fe wnes i deimlo'n waeth ac ar ôl cinio gyda'r cyfeilion arferol (heblaw am am DJP ac RAJ) roedd yn rhaid imi fynd i'r gwely mewn môr o Lemsip. Neu i fod yn fwy cywir, 'Lemsip' Superdrug. Wrth gwrs yr ydych yn cael eich temtio i ddefnyddio pethau eraill hefyd, a dwi wedi bod yn sipian Potter's Elder Flowers with Peppermint & Composition Essence.

Bu'n rhaid imi ddod adref o'r gwaith ddoe, a dwi ddim yn mynd i lwyddo i fynd heddiw eto oherwydd yr annwyd.

Diolch i bawb sydd wedi cysylltu i ddymuno'n dda imi.