Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-01

¡Viva la revolución galesa!

Adeg cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2001 yn ymwneud â'r iaith Gymraeg roedd y datganiad i'r wasg a ryddhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn eithaf 'up beat', heblaw am un ffaith drist ynglŷn â Cheredigion:
Ceredigion oedd â’r gostyngiad mwyaf yn y ganran [siaradwyr Cymraeg]: i lawr 7.1 pwynt canran o 59.1% yn 1991 i 52.0 yn 2001.

Felly roedd heno yn noson reit gyffrous gan fod Cell Gogledd Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei hatgyfodi. Daeth rhyw 8 ohonom ynghyd i ail-gydio yn y gwaith o drefnu'r chwyldro yn nghartref EHGJ a SH ac o geisio cael gweithredu effeithiol gan y Cyngor Sir. Cawsom gyfle i drafod sut mae'r ymgyrch yn erbyn Cynllun Datblygu Unedol Ceredigion ac ymgrych Siarter Ceredigion i Gymreigio Cyngor Sir Ceredigion.

Cytunwyd i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth i esbonio beth yw cynnwys Siarter Ceredigion ac i gynnal gweithgareddau eraill i hybu'r ymgyrch honno. Bydd pwyslais ar Gymreigio gweinyddiaeth y cyngor ac ar sicrhau fod pob swydd yn derbyn proffil iaith fydd yn caniatáu i siaradwyr Cymraeg brofi chwarae teg wrth dderbyn gwasanaethau'r cyngor. Mae hyn yn arbennig o wir yn sgil apwyntio prif swyddog ieuenctid uniaith Saesneg o fewn y sir yn ddiweddar.

Mae'r ymgyrch dros y Gymraeg yn y sir yn ymestyn yn bellach na dim ond y frwydr ynglŷn â 6500 o dai. Bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar flaen y gad yn yr ymgyrch honno, ond nid yw'r Cyngor Sir wedi ystyried yn ddifrifol ganlyniadau'r cyfrifiad diwethaf. Dylai hynny fod wedi bod yn sbardun i weithredu gan y cyngor. Ond ni chafwyd dim mwy na dagrau diwerth. Yr ydym yn herio'r Cabinet Ceredigion i ymateb i her Siarter Ceredigion a sefydlu gweithgor trawsbleidiol i ymateb i'r ffigurau cyfifiad diwethaf, i ysgogi trafodaeth go iawn ar ddyfodol y Gymraeg yn y sir, ac i greu cynllun gweithredu fydd yn golygu cymryd y Gymraeg o ddifrif fel pwnc polisi o fewn y cyngor.


Mae'r chwyldro yn dechrau fan hyn... yng nghegin EHGJ a SH!
2005-02-01 19:42PM