Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-01

Mae'r sbecteli ar eu ffordd

Siop Specsavers, Aberystwyth 2005-02-01 9.05AM
Siop Specsavers, Aberystwyth 2005-02-01 9.05AM

Yn blygeiniol heddiw'r bore fe es i gael fy mhrawf llygaid yn siop Specsavers, Aberystwyth. Roedd pawb yn groesawgar ac yn gwrtais iawn, er yn anffodus doedd yr un yn siarad Cymraeg.

Nicola oedd fy optegydd. Ac ar ôl ei phrofion dyma oedd y canlyniad.
R - Dist : Sph = +0.75 Cyl = +2.80 Axis = 80
L - Dist : Sph = +0.25 Cyl = +0.25 Axis = 100
Rwyf wedi archebu dwy sbectel ar sail y presgripsiwn gan fod Specsavers yn cynnig dwy sbectel am bris un tan ddiwedd Mawrth 2005:
  • MILTON yw'r cyntaf a dwi'n mynd i gael lensys Thin & LightTM iawn yn y pâr hwnnw ynghyd à haenen UltraClearTM. Bydd yn rhaid imi aros am wythnos i gael popeth wedi'i wneud.
  • FELCE yw'r ail sbectel, er fe wnes i chwarae gyda'r syniad o gael BYRON. Bydd dim byd ffansi yn hon, ac felly fe fydd hi'n dod 'fory neu ddydd Iau.
Popeth yn iawn felly. Dim ond un peth wnaeth godi fy ngwrychyn sef y duedd fodern o ddefnyddio ffurf Saesneg ar eich cyfeiriad. Wrth gysylltu gyda rhyw gronfa ddata yn rhywle mae rhoi'r cod post yn troi cyfeiriad o'i ffurf Gymraeg yn awtomatig. Dylai rhywun wneud rhywbeth am hyn, ond pwy?