Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-02

"O frabjous day! Callooh! Callay!" he chortled in his joy

Roeddwn yn eistedd yn y gegin yn cael rhywbeth i'w fwyta yn dilyn y cyfarfod cyntaf o Gell Gogledd Ceredigion atgyfodedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, pan daeth DML, prif weithredwr y rhagddywededig Gymdeithas i mewn.

Roedd rhywbeth ar droed, gan fod ganddo wên ar ei wyneb yn ymestyn o glust i glust a rhyw awgrym o fuddgoliaeth yn yr awyr. Mentrais feddwl i fi fy hun fod brwydr yr iaith wedi'i hennill unwaith ac am byth, a bod grymoedd gwrth-Gymreictod wrthi'n curo ar ddrws y fflat y funud honno er mwyn ildio'n swyddogol ac ymddiheuro'n ffurfiol ac yn ddiffuant am bechodau'r gorffennol.

Ond nid dyna oedd achos y cyffro. Na, roedd hi'n fuddugoliaeth fwy na hynny mewn un ffordd o siarad, sef Manchester United yn trechu Arsenal 4-2 yn Highbury yn Uwch-gynghrair Lloegr. Fel dywedodd DML ei hun "Dim ond 8 pwynt y tu ôl i Chelsea 'rŷn ni bellach!" Bydd rhywun yn cysgu'n dawel heno.