Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-12

Tywydd diflas

Glaw a mwy o law. Dyna oedd dydd Sadwrn. A phan fydda i am wybod mwy am y tywydd dwi wastad yn troi at wefan y Met Office. Erbyn diwedd y prynhawn roedd y tywydd wedi dechrau newid a hi'n raddol agor mas.

Yn Aberystwyth, wrth gwrs y môr yw mesur y tywydd ac roedd y môr yn arbennig o arw heddiw, ac yn creu golgyfa wych o'r Hen Goleg.

Bues i'n gwneud fy nyletswyddau arferol heddiw yn y bore - glanhau'r ystafell ymolchi (prynodd DML frws tolied newydd), tacluso o gwmpas y gegin a'r ystafell fyw. Wedyn gorffen paratoi cyhoeddiadau'r Sul ar gyfer Eglwys S. Mair cyn mynd mas i gwrdd â RO am ginio yn yr Hen Orsaf.

Ar y ffordd i'r Hen Orsaf dyma fynd heibio i Eglwys S. Mair i dynnu ffotograffau o'r adeilad o'r tu fas. Yna i Somerfield i wneud fy siopa wythnosol a threfnu dosbarthu'r negeseuon yn y prynhawn rhwng 4 a 6.

Wedi cinio fe wnes i ofyn am lifft gan RO mas i Barc-y-llyn er mwyn galw yn Focus a Currys. Dim ond edrych yn Currys, ond yn Focus fe brynais frws â choes hir er mwyn gwneud ychydig o waith rownd y tŷ. Diolch yn fawr i RO unwaith eto.

Daeth y negeseuon yn brydlon am 4, ac wedyn roedd yr holl waith o lenwi'r cypyrddau ac o geisio rhoi popeth yn ei le. Gyda'r nos dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer pregethu 'fory yn Ebenser, Penparcau ac yn arwain yr Hwyrol Weddi yn Eglwys S. Mair.