Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-12

Crempog... ychydig yn hwyr

Ddoe bues i'n gweithio adref drwy'r dydd ac felly ni welais neb go iawn tan y nos pan es i noson grempog a gwin wedi'i threfnu gan gangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru, a hynny o dan oruchwyliaeth sicr a chadarn Dr MWR.

Fel y gellid disgwyl fe aeth y noson yn ddidrafferth iawn oherwydd y trefnu. Bu nifer yn hael i gyfrannu crempogau, eraill yn darparu gwin, a rhoddion ar gyfer y raffl. Yn bwysicach fyth daeth nifer go dda ynghyd i fwyta ac yfed. Yn eu plith hwy roedd nifer o wahanol ganghennau eraill Plaid Cymru yng ngogledd Ceredigion. Fe wnes i adrodd stori yn y noson. Roeddwn i wedi'i pharatoi a'i dysgu ryw ddeufis yn ôl ac wedi dechrau anghofio'r manylion, ond dwi'n credu imi lwyddo i beidio â dangos gormod o ansicrwydd! Cynhaliwyd y noson yng nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail ac roeddem yn gadael tua 10.30pm ac fe aeth rhai ohonom – MWR, DJP, RO, Elwyn a finnau – i dafarn y Ship & Castle cyn mynd adref. Y prif bynciau trafod oedd priodas Charles a Camilla, dulliau canfasio ar gyfer yr etholiad, a'r ffaith fod yr ymgyrch etholiadol wedi cychwyn i bob pwrpas gyda Tony Blaid yn cyhoeddi chwech addewid Llafur Newydd ar gyfer yr etholiad hwnnw.

Pam noson grempog? Wel, tarddiad y cwbwl yw'r traddodiadau a dyfodd o gwmpas yr ŵyl Gristnogol a elwir yn Ddydd Mawrth Ynyd, neu Shrove Tuesday yn Saesneg, sy'n cael ei adnabod yn Ffrangeg fel Mardi gras. Felly roeddem ni yn ychydig yn hwyr yn cael ein crempogau.

Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod cyn dechrau'r Garawys a nodir gan Ddydd Mercher y Lludw. Yn ystod y Garawys bydd Cristnogion yn 'ymprydio' ac yn hanesyddol byddai hynny'n cynnwys ymatal rhag bwyta cig na braster ac felly roedd yn rhaid defnyddio'r bwydydd hynny i gyd cyn dechrau'r ympryd a dyna darddiad y bwyd sy'n gysylltiedig gyda Dydd Mawrth Ynyd. Mewn rhai mannau troes y diwrnodau o'r Sul blaenorol yn gyfnod o Garnifal, mewn mannau eraill mae'r holl gyfnod o'r Ystwyll (Saesneg: Epiphany, 6 Ionawr) yn adeg o garnifal. Efallai y flwyddyn nesaf y gallai cangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru drefnu gorymdaith garnfial drwy strydoedd y dref – ar y cyd gyda'r canghennau eraill, wrth gwrs!