Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-12

Beth yw weblog?

Mae 'na nifer sy'n holi beth yw blog neu'n fwy cywir weblog. Fe ddes i o hyd i adran ddifyr ar weblogau yn y Guardian. Mae'n reit ffeithiol. Dwi ddim yn gwybod a yw beth dwi'n ei wneud o ddydd i ddydd yn cael ei ystyried yn weblog go iawn, ond dwi'n cael llawer o sbort o'i wneud.

Gyda llaw mae'r broblem gyda phostio sylwadau yn dal i barhau. Dwi am ddiolch i bawb sydd wedi ceisio'u gorau i bostio sylwadau ond heb lwyddo. Cyn bo hir fe fydd y peth yn gweithio gan fod yr peirianwyr wrthi'n edrych ar beth sy'n bod ar hyn o bryd. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd pawb sydd yn bwriadu postio sylwadau yn gwneud ar ôl i'r peth gael ei gywiro.

Gyda llaw beth ych chi'n ei feddwl o'r we-gam? Ar hyn o bryd mae'r camera yn edrych ar y silffoedd llyfrau sydd yn yr ystafell wely. Mae gwe-gamerâu i'w cael ym mhobman, ond fy hoff rai i yw camerâau Traffig Cymru ar hyd yr A55, M4 a rhai ffyrdd eraill.