Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-09

Cwmni o Wlad yr Ia am brynu Somerfield

Efallai nad oes rhyw lawer o bobl sy'n cymryd diddordeb yn hynt a helynt y cwmni sy'n rhedeg yr archfarchnad lle maen nhw'n gwario eu harian bob wythnos. Ond dwi'n ofni fy mod i. Mae holl bwer y cwmnïau mawr fel Tesco, Asda, Sainsbury&c. yn fygythiad i'w gweithwyr ac i siopwyr yn y pendraw. Mae darllen llyfr Joanna Blythman, Shopped: the shocking power of British supermarkets, wedi agor fy llygaid i hynny. Mae hi'n dweud yn ei llyfr ei bod hi wedi mynd gam ymhellach a'i bod hi bellach yn osogi siopa mewn archfarchnadoedd yn llwyr. Does dim pwynt i mi geisio gwneud hynny gan fy mod mor hoff o fy 'home delivery' gan Somerfield.

Ond mae sïon ar dudalennau busnes y papurau newydd fod pethau'n mynd i newid yn Somerfield am fod cwmni o Wlad yr Ia yn llygadu'r cwmni, sef Baugur Group. Os yw hynny'n meddwl y bydd gwell pysgod ar werth a bwydydd eraill egsotig o Wlad yr Ia fel wyau'r pâl, yna fe fyddwn i wrth fy modd!