Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-13

Pregethu ym Mhenparcau

Cinio fel arfer yn nhŷ bwyta Tŵr y Cloc. Cael cawl cennin a thatw i ddechrau ac yna pizza gyda bwyd môr a choffi i orffen. Ers ychydig fisoedd bellach mae Gwyddeles wedi bod yn gweithio fel gweinyddes yn y bwyty ar y Sul. Mae'n astudio yn y brifysgol, ond yn dod yn wreiddol o Inis Eoghain yn sir Dún na nGall. Mae hi wastad yn serchog ac yn groesawgar. Roedd y criw arferol yn y cinio: RAJ, RO, DJP a DML. Yn anffodus nid oedd Dr HW yn medru bod yno. Petai ef wedi bod yno fe fydden ni wedi cael trafodaeth am ble yr ydym am aros yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn rhaid gwneud hynny cyn diwedd yr wythnos sy'n dod.

Ar ôl cinio daeth TA i roi lifft i fi er mwyn imi bregethu yn Ebeneser, Penparcau. Mae Ebeneser yn gangen o Gapel y Morfa. Dwi'n pregethu yno fel arfer unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Heddiw yw'r Sul Cyntaf yn y Garawys ond fe wnes i bregethu ar hanes temtiad Iesu fel y mae'n cael ei adrodd gan ym mhennod 4 Efengyl Luc. Roeddwn i'n ceisio dangos sut y gall Cristnogion heddiw weithredu ar yr un egwyddor â Iesu pan yn dod wyneb yn wyneb â themtasiwn. Dwi ddim yn gwybod a oeddwn i'n ddigon eglur, mae'n anodd gwybod sut i gyflwyno rhywbeth fel 'na heb fod yn rhy haniaethol. Yn ddiddorol iawn dyna union bwnc y bregeth a glywodd Charles a Chamilla heddiw yn Eglwys S. Leonard, Didmarton. Dyna gyd-ddigwyddiad!

Dwi wastad yn cael croeso cynnes ym Mhenparcau, ac mae torf go dda yn troi mas fel arfer. Doedd pethau ddim yn wahanol heddiw. Cefais wahoddiad yn ôl i gartref TA i gael te wedi'r gwasanaeth, ond gan fod gen i waith i'w wneud i baratoi ar gyfer y gwasanaeth nos yn Eglwys S. Mair roedd yn rhaid imi wrthod y gwahoddiad.

Yn y nos arwain gwasanaeth yr Hwyrol Weddi yn Eglwys y Santes Fair, gyda EW yn pregethu. Pregeth y tro hwn ar Josua yn cael ei alw i arwain, a'r hyn a oedd yn rhoi nerth iddo ymgymryd â gwaith a oedd yn ymddangos yn straenllyd ac yn anodd.