Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-13

Gwylio paent yn sychu

Mae'r gwe-gam wedi'i droi erbyn hyn i edrych mas drwy'r ffenest. Os oes 'na wynt yna fe ddylech weld y faner ar orsaf Gwylwyr y glannau yn chwifio yn y cefndir. Fe ddylech weld ychydig blanhigion yr ardd hefyd.

Dwi'n dwli ar we-gamerĂ¢u, ac maen nhw i'w cael ym mhobman. I fi un o'r mwyaf diddorol yw'r un ar wefan y BBC sy'n cadw llygad ar y Stryd Fawr, Cwwmderi.