Ddiwedd y prynhawn dyma ffonio Specsavers i gael gair ynglŷn â'r sbectel. Doedd dim addewid am ddim, efallai 'fory, efallai ddydd Sadwrn, ond dim addewid. Ar ben hyn i gyd roedd y gwaith wedi bod yn eithaf caled. Felly beth yn well ar gyfer gorffen y noson na chyfarfod gwleidyddol, sef pwyllgor etholaeth Plaid Cymru yn
Aberaeron.

Fel ei arfer roedd RO wedi bod yn garedig â rhoi lifft i fi lawr i'r cyfarfod. Roedd y cyfarfod yn dechrau am 7.00pm, felly gadel Aberystwyth yn gynnar er mwyn cael swper yn nhŷ bwyta
The Big Bite ar Sgwâr Alban, Aberaeron (01545 570848). Mae'n lle da iawn am swper pysgod, ond yn llawer llai enwog na'r New Celtic. Fe ges i benfras mewn cytew, sglodion, pys potsh, bara menyn,
Diet Coke a chwpanaid o de. Hyfryd.
Rhai lluniau o The Big Byte, Aberaeron
Mae bwyta mewn rhywle fel The Big Byte yn dda i'r ysbryd os nad i'r cnawd. Wedyn roeddwn yn teimlo y gallwn wynebu'r pwyllgora oedd o'm blaen.

Wedi pwyllgora am gyfnod rhesymol o amser fe ddaeth RO a finnau 'nôl mewn pryd i fwynhau hoe yng
Ngwesty'r Bell Vue yn Aberystwyth yn edrych allan dros Draeth y Gogledd a Chraig Glais. Erbyn hynny roeddwn i edrych ymlaen i fy ngwely a chodi yn y bore i wynebu dydd arall. Ymlaen mae Canaan!