Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-04

Maen nhw wedi cyrraedd!!!

Ffoniodd Gavin o Specsavers fi'r prynhawn 'ma i ddweud fod y sbecteli'n barod. Rhaid mynd i'w casglu cyn 5! Dwi'n mynd i wneud hynny! Dim amser i ddweud llawer mwy! Dwi'n falch o fedru rhannu'r newyddion da gyda fy holl gyfeillion blog! Mae'r ebychnodau yn arwydd o'm cynnwrf! Blogiwch 'nôl rywun i rannu yn fy llawenydd! Byddaf yn gweld eto 'mhen gronyn bach... os na fydd 'na broblem arall!