Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-03

Bore diflasach

Newydd dderbyn neges ar fy ffôn symudol gan Gavin o Specsavers. Daeth fy sbectel i fewn, ond gyda'r lensys anghywir! Roedd yn gwrtais ac yn ymddiheuriol ond yn methu cynnig dyddiad pendant, efallai 'fory, efallai ddydd Llun, efallai i dragwyddoldeb. Dwi wedi dod i arfer bellach ar weld y byd mewn ffocws meddal, mae'n dal i fod yr un mor greulon a chas... i fi ta beth! Ond dwi'n cadw fy nobeithion yn uchel drwy gofio beth ysgrifennodd Waldo yn un o gerddi mwyaf proffwydol, "Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain / Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr heb sbectel". Dyna'r darlleniad gwreiddiol a wnaed gen i o lawysgrif NLW MS 69Z, cofiwch roeddwn heb fy sbectel wrth geisio darllen ei lawysgrifen!