Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-02

Deddf iaith newydd

Mae disgwyl i Senedd yr Alban ddechrau ar y broses a fydd yn golygu pasio Deddf yr Iaith Gaeleg heddiw. Er na fydd yn rhoi statws iaith swyddogol i Aeleg, mae llywodraeth yr Alban yn datgan ei bod am weithio tuag at sicrhau statws swyddogol. Dyma ddyfyniad o ddatganiad i'r wasg gan Bwyllgor Addysg y Senedd:
The Bill seeks to establish Bòrd na Gàidhlig in statute with a responsibility to oversee the development of Gaelic and to secure its status as an official language of Scotland. The Bill proposes a legal framework for the development of a national Gaelic language plan and would ensure that public authorities develop Gaelic language plans. Bòrd na Gàidhlig would also be given a duty to provide guidance on Gaelic education under this legislation.
Efallai ei bod hi'n bwysig cofio fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi bod yn sail i'r mesur yn yr Alban, a bod hynny wedi'i lastwreiddio, er mwyn cael rhyw syniad o pa mor gryf fydd y peth. Ond o leia mae'n gychwyn.

Am fwy o wybodaeth am Aeleg mae gwefan Comunn na Gàidhlig yn cynnig rhestr ddefnyddiol o wefannau. Un peth ddysgais i wrth ymweld â'r wefan oedd taw fersiwn Gaeleg yr Alban o Fuddsowyr mewn Pobol yw Creideas nar Cosnaichean. Dim ond wrth ddatblygu managementspeak mewn ieithoedd llai y mae gobaith iddyn nhw oroesi yn y byd sydd ohoni. Gyda'r Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn cynhyrchu hyn i ni yng Nghymru yn dunelli rydym yn weddol saff!