Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-05

Noson o gerddoriaeth

Yn dilyn rhaglen Robert Kilroy-Silk, rhaglen gwerth ei gweld, roedd 'na raglen ddogfen am Hank Williams, y canwr gwlad. Mae'r hanes yn drist iawn, ond fe wnaeth e gynhyrchu corff o waith gwych. Dyma beth oedd gan rywun i ddweud amdano:
The original honky tonk man. His brief career was beset by ill-health, alcoholism and marital strife – all essential elements of the country songbook ever since!
Cyn i'r rhaglen orffen fodd bynnag, roeddwn i wedi troi'n ôl i S4C Digidol i weld cystadleuaeth Côr Cymru 2005, sef y darn o'r gystadleuaeth ar gyfer corau meibion – Côr Meibion Llanelli, Hogia'r Ddwylan, a Chôr Pen-y-bony a'r Cylch. Rhaid ifi gyfaddef taw Côr Pen-y-bont gafodd fy mhleidlais i. Ond wn i ddim byd go iawn am gerddoriaeth.