Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-06

Bore Sul

Codi'n gynnar heddiw eto i wneud fy nyletswyddau. Dwi'n paratoi ar gyfer darllen y llithoedd yn y gwasaneth y bore 'ma yn Eglwys S. Mair. Dwi'n darllen dau ddarlleniad, un o'r Hen Destament, Lefiticus 19.9-18, a'r Testament Newydd, Luc 10.25-37. Y thema yw'r gorchymyn "Câr dy gymydog fel ti dy hun".