Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-05

Diwrnod arall wrth fy modd

Dyw pethau ddim yn digwydd fel yr ych chi'n disgwyl iddyn nhw wneud. Er enghraifft, roedd hi wedi bod yn wythnos ddigon caled yn y gwaith, ond heb ryw lawer i'w ddangos amdano ac roeddwn i wedi rhyw dybio y buasai'n anodd gwneud dim gwaith dros y penwythnos. Ond i'r gwrthwyneb, dyma godi'n reit gynnar a glanhau'r ystafell ymolchi, tacluso'r ystafell fyw a'r gegin a hynny i gyd cyn 10 o'r gloch. Wedyn at y cyfrifiadur i wneud cyhoeddiadau wythnosol Eglwys S. Mair ac ymlaen i ddechrau llunio taflen ar yr argyfwng tai fel rhan o ymgyrch Plaid Cymru.

Fel arfer dwi'n mynd i gael coffi fore Sadwrn gydag Elwyn, ond mae yntau a Dr MWR wedi mynd i Cheltenham dros y penwythnos ac am ryw 11.00am dyma dderbyn neges destun ganddo o Ledbury.

Wedi ychydig mwy o waith roedd hi'n tynnu am 12 o'r gloch a dyma RO yn ffonio. Cytunodd y ddau ohonom ar fynd am ginio yn nhafarn Bar Essential. Lle galwodd DML heibio ar ei ffordd yn ôl i'w gyfarfod.

Wedyn ar ôl galw heibio i wneud ffotogopïau o'r cyhoeddiadau a galw yn Jessops i gael cerdyn ar gyfer y camrea fe aethon ni i gael coffi yn y Mecca. Ar y ffordd draw dwi'n credu imi synnu RO drwy ddweud fy mod i'n credu y dyllid mwynhau bywyd a bod dim o'i le ar hynny. Bach yn eithafol fel gosodiad, ond dyna dwi'n ei feddwl felly does dim ffordd imi ei fynegi mewn unrhyw eiriau eraill.

Ffarwelio ag RO ac ymlaen i wneud fy siopa yn Somerfield a chael nhw i ddod â'r negeseuon i'r tŷ rhwng 4pm-6pm. Gorffen siopa am rhyw 3.30pm gan roi rhyw hanner awr imi ddychwelyd i'r tŷ. Roedd yn rhaid galw heibio rhwy siop lyfrau i ddathlu'r ffaith fod fy sbecteli yn gweithio a bod darllen yn bleser unwaith eto yn hytrach na phoen. Ac fe brynais gopi o lyfr y diweddar Susan Sontag, Regarding the pain of others. Dwi wedi darllen darnau o'r llyfr o'r blaen ac os y bydd cystal a'i llyfr ar ffotograffiaeth, On photography fe fydd yn werth yr ymdrech.

Roeddwn adref erbyn 4.00pm a diolch byth am hynny oherwydd dyma'r negeseuon o Somerfield yn cyrraedd of fewn 10 mnunud.

Heno dwi'n paratoi i wylio rhaglen ar Robert Kilroy-Silk am 8pm ar BBC2. Dwi wedi gweld y gystadleuaeth gorau sydd ar S4C ar S4C digidol yn barod. Mae DML a DJP wedi gweld y rhaglen Kilroy-Silk yn barod ac yn canmol felly dwi'n ffyddiog y bydd hi'n werth ei gweld. Fel hyn yr ysgrifennodd Will Hodgkinson o'r Guardian amdani:
On the strength of this film it isn't surprising that Robert Kilroy-Silk left the UK Independence party: he comes across as far too vain and self-centred to throw his allegiance behind a party, even if it is a party that exploits the fears and prejudices of its potential voters. The documentary follows Kilroy and his wife from their huge villa in Spain to their house in Buckinghamshire to a European Union conference in Strasbourg, where Ukip is stating its case for Britain to leave the EU, and Kilroy turns aggressive every time he is asked about his notorious anti-Arab article in the Daily Express or about Ukip's suggestion that the EU is founded on communist principles; his sudden switches from bullish to irreverent seem forced. It makes for fascinating viewing, but it won't do Kilroy much good in the polls.
Mae'r rhaglen yn addo tipyn. Gobeithio'n fawr y bydd yn llwyddo i gadw'r addewidion hynny.