Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-11

Llawen, llawen, llawen

Dim amser i ysgrifennu dim ddoe oherwydd y cyffro a'r dathlu digymysg fod Charles Tywysog Cymru wedi dyweddïo â Chamilla Parker-Bowles. Dwi am un yn gobeithio y bydd y ddau yn hapus iawn gyda'i gilydd ar ôl yr holl siarad cas amdanyn nhw. Yr unig newyddion drwg yn hyn i gyd oedd agwedd sbeitllyd a dialgar y frenhines tuag at Camilla. Os yw hi'n priodi Tywysog Cymru yna fe ddylai gael y teitl Tywysoges Cymru, nid yw'n deg iddi hi fel unigolyn fod y rheol ddwl yma wedi'i chreu ar ei chyfer hi. Does dim diddordeb o gwbl gen i mewn priodas forganataidd. I ddweud y gwir dwi'n credu ei bod yn rhan o hawliau dynol Camilla i arddel y teitl Tywysoges Cymru – os yw hi'n medru bod yn Dduges Cernyw ac yn Dduges Rothesay, mae hynny hefyd yn gamwahaniaethu yn ein herbyn ni fel Cymry. Dwi'n credu y dylid dechrau ymgyrch o'n plaid ni ac o blaid Camilla i gael chwarae teg.

Dim ond un broblem fach sydd wedi, ddwi ddim yn credu y dylai Charles fod â'r hawl i'w alw ei hun na chael ei alw'n dywysog Cymru yn y lle cyntaf....