Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-08

Beth ddigwyddodd ddoe?

Roedd y peth yn annisgwyl i fi, ond roedd cael rhywun yn gofyn beth ddigwyddodd i'r blog ddoe yn dipyn o sioc. Ydy fy mywyd diflas i, bywyd dwi'n ceisio ei gofnodi'n reit fanwl, o ddiddordeb i unrhyw un arall. Dwi'n gweld cynnal y blog hwn fel rhyw fath o wasanaeth i helpu pobol sydd â bywydau y maen nhw'n eu hystyried yn ddiflas i sylweddoli nad yw pethau cynddrwg â hynny arnyn nhw.

Felly beth ddigwyddodd ddoe? Ddoe bues i yn Llanelwedd ar faes y sioe amaethyddol. Hoffwn frysio i ddweud nad mynd yno i arddangos heffer na bwch gafr nac ysbwng Victoria yr oeddwn i. Yn hytrach roeddwn i'n mynd gyda NMD i gyfarfod o undeb Prospect ym mhafiliwn y Cynulliad Cenedlaethol i gynrychioli aelodau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roedd 'na gynrychiolwyr yno hefyd o'r gweitwhyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa Werin Cymru, a'r Comisiwn Henebion.

Wedi imi gyrraedd cefais fy hun yn cadeirio'r cyfarfod. Aeth popeth yn iawn. Roedd un ddyletswydd bleserus gen i i'w chyflawni, sef cyflwyno rhodd i swyddog llawn amser yr undeb yng Nghymru, LJ, ar ei hymddeoliad yn y dyfodol agos. Dyma lun ohonom ni i gyd yn y cyfarfod wedi inni gyflwyno'r rhodd.