Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-18

Gwrando ar y radio

LM wnaeth fy ngyfarch yn y gwaith drwy ddweud ei bod hi yn darllen y blog, ond ei bod wedi methu ymateb (does dim sôn am hyn yn mynd i weithio byth!). A dyma hi'n dweud, ar ôl sylwi ar fy nhgyfeiriad at Radio Tok Pisin Radio Australia, sut yr oedd hi'n arfer gwrando ar Radio Moscow. Roedd Radio Moscow yn arfer bod yn enwog am y sylw yr oedd yn fodlon i'w roi i newyddion nad oedd yn 'newyddion' yn llygaid newyddiadurwyr y gorllewin. Wrth gwrs dyma'r union newyddiadurwyr sydd yn rhoi cymaint o sylw i briodas arfaethedig Charles a Chamilla.

Erbyn hyn mae Radio Moscow wedi troi yn Russian State Broadcasting Company: The Voice of Russia. Wedi'i fodelu ar y gwasanaeth radio gwych hwnnw a ariannwyd gan y CIA, Voice of America.

Roedd hi'n ddiddorol ddoed ei bod hi wedi bod yn rhaid iddi nhw newid eu bwriad o briodi yng Nhgastell Windsor, a mynd yn fwy cyhoeddus. Efallai eu bod nhw wedi synhwyro fod y cyhoedd ar eu hochor ac yn medru mentro cael eu gweld yn gyhoeddus gyda'i gilydd. Neu efallai eu bod wedi gwneud rhagor o ymchwil i'r farchnad. Dwi wedi dod ar draws gwefan syn cynnig rhoddion difyr ond rhad iawn iawn a chynaliadwy ar gyfer nodi priodas Charles a Chamilla.