Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-17

Barn GP ar Specsavers

Fel y gŵyr pawb sy'n darllen y blog dwi wedi cael problemau gyda phostio sylwadau. Yn dilyn ymateb diweddaraf oddi wrth Blogger Support dwi'n ffyddiog y bydd pethau'n newid. Ond mae'n dda gen i ddweud fod rhai pobol wedi bod yn ymateb imi yn uniongyrchol ar fy nghyfeiriad dogfael@btopenworld.com. Dyma beth oedd gan GP i ddweud wrtha i'n ddiweddar am Specsavers.
Beth sy'n bod efo'r botwm postio sylwadau?
Dwi wedi bod yn trio ers oes pys i dy geryddu am feiddio ymweld â ffasiwn lle ffiaidd â Specsavers!!
Diolch GP am hynny. Nid ti yw'r cyntaf i ddweud hynny am y lle. Fe wnaeth GC gymryd y trafferth i ddweud wrtha i fod 'na optegyddion sy'n siarad Cymraeg yn Aberystwyth.

Dwi'n syrthio ar fy mai, ond roeddwn i'n despret, ac yn fy naïfrwydd fe droes at Specsavers. Dyna ddangos nerth hysbysebu! Ond er gwaethaf y diffyg Cymraeg, yr ymdrech i beidio â thalu trethu trwy gofrestru fel cwmni yn Guernsey, &c., mae'n rhaid imi ddweud fod bron pawb des i i gysylltiad gyda hwy yn serchog ac fe aeth nifer ohonyn nhw o'u ffordd i helpu.