Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-18

Saga Specsavers yn parhau

Dwi wedi derbyn sylwadau pellach gan GP am gefndir ei gasineb tuag at Specsavers. Mae'n ddidorol iawn.
Yn ystod y 1990au cynnar penderfynodd llywodraeth Maggie Thatcher nad oedd angen cymhwyster Dispensing Optician i gynghori, mesur a thorri y math o lens fyddai orau i'r presgripsiwn.

Fel person oedd yn y coleg yn astudio i fod yn Dispensing Optician ar y pryd, roedd yn ergyd drom ac yn sydyn roedd y llythrenau FBDO ar ôl fy enw yn llawer llai gwerthfawr a roeddwn yn cael fy nhrin, nid fel person proffesiynol oedd â gwybodaeth fyddai'n gallu helpu'r claf, ond fel gwerthwr ffenestri dwbwl.

Yn amlwg, mae nifer o Optegwyr wedi cadw eu staff proffesiynol er mwyn cynnig gwasanaeth proffesiynol llawn i'r claf, ond er mwyn sicrhau elw, mae rhai cwmniau masnachol mawr yn gyrru staff gweinyddol dibrofiad ar gyrsiau i wneud swydd roeddwn i wedi treulio blynyddoedd yn y coleg yn astduio a phasio arholiadau ar ei gyfer.

GP
Diolch yn fawr am ymateb GP. Byddai'n dda petawn i'n medru cael y sustem sylawadau go iawn i weithio. Ond mae croeso i'r gweddill ohonoch chi gyfrannu trwy anfon e-bost at dogfael@btopenworld.com.