Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-15

Dim byd yn digwydd yn yr ardd!

Mae rhai wedi bod yn cwyno nad oes dim yn digwydd yn yr ardd sydd ar y gwe-gam. Nid oes modd i fi hyd yn oed ddadlau gyda hynny. Ond y cwestiwn yw beth fyddai'n digwydd mewn gardd gefn yn Aberystwyth ym mis Chwefror? Dwi'n ofni petai 'na rywbeth yn digwydd mae rhywun yn claddu corff neu rywbeth tebyg fyddai hynny! Felly, diolched pawb fod dim yn digwydd yn yr ardd! Os oes rhaid i rywbeth ddigwydd yn yr ardd yna Chris Needs ddylai hynny fod a dim na neb arall.