
Dim ond un gair o gyngor, os ydych chi wedi bod yn garcharor yn eich fflat am wythnos efallai y dylech ystyried gwneud rhywbeth ychydig yn llai blinedig cyn mynd am Ffwl Monti go iawn. Cefais wibdaith hyfryd yng nghwmni'r ddau, ond roeddwn i wedi blino'n lân erbyn cyrraedd yn ôl yn Aberystwyth. Ar sail fy mhrofiad felly gallaf ddweud yn gwbl ddigamsyniol na fuaswn i wedi cynghori'r carcharorion a ddaeth yn ôl o Guantánamo i fynd i'r Gelli Gandryll yn syth chwaith, ond byddai ymweliad yn ystod yr ŵyl lenyddol ddiwedd Mai yn siŵr o wneud lles iddyn nhw o gofio faint o ddiwylliant y mae'n bosib ichi ddod o hyd iddo mewn unrhyw ganolfan sy'n eiddo i Luoedd Milwrol y Taleithiau Unedig.