Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-02-26

Disgwyl am yr alwad

Un o'r rhesymau fod yr ymweliad â'r Gelli Gandryll wedi rhoi ychydig o fyw o bwysau arna i na'r arfer oedd fy mod wedi addo bod yn "ffrind ar y ffôn" i dîm cwis Ysgol Sul Eglwys y Santes Fair mewn fersiwn cwis beiblaidd o Who wants to be a millionare?. Beth roedd hyn yn ei olygu oedd bod yn rhaid imi fod ar gael rhwng 2.15pm a 4pm. Popeth yn iawn, mynte fi. Wrth gwrs dim ond ar ôl cyrraedd y Gelli y sylweddolwyd nad oes bron i unrhyw fan yn y dref lle mae'n bosib derbyn signal cwmni O2. Panig pur ond rheoledig. [Yn y llun fe welwch chi'r ffôn yn eistedd ar y ford wrth imi ddisgwyl iddo ganu!]

Ar ôl crwydro a chrywdro fe ddes o hyd i signal mewn caffi, lle wnes i dreulio rhyw awr a hanner yn disgwyl am alwad. Yn y diwedd doedd tîm Ysgol Sul Eglwys y Santes heb geisio ffonio. Ond roedd popeth wedi mynd yn iawn.

Cyn yr holl banig fe wnes angofio dweud fy mod wedi bod i gael cinio yng Ngwesty Kilverts yn y Gelli. Cefais i gawl llysiau hufennog (£3.95) a choffta cig eidio a bricyll gyda salad (£6.25). Neis iawn, yn arbennig y cawl.